Alan Thompson

| dateformat = dmy}}

Cyflwynydd radio a cherddor o Gymru oedd Alan Thompson (196328 Medi 2017).

Yn yr 1980au roedd yn un o sylfaenwyr y band Peppermint Parlour o Gaerdydd, gan chwarae'r gitâr, ganu ac ysgrifennu caneuon i'r band.

Ymunodd a BBC Radio Wales yn 1991 gan weithio fel gohebydd ac yna cyflwynydd ar y sioe adloniant nos Wener, Rave a ddarlledwyd ar Radio Wales ac ar rwydwaith Radio Five. Bu'n gweithio ar y sioe am dair blynedd gyda'i gyd-gyflwynwr Rob Brydon. Aeth ymlaen i gyflwyno nifer o raglenni cerddoriaeth ar yr orsaf, yn fwyaf diweddar The Evening Show, a ddaeth i ben yn Awst 2013. Ers hynny, roedd yn cyflwyno sioe ar nos Sul.

Ar deledu, cyflwynodd ddwy gyfres o ''Don't Look Back'' ar BBC Wales a cyflwynodd Wobrau Celf BBC Wales.

Bu farw ar ôl salwch byr yn 54 mlwydd oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Thompson, Alan', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Thompson, Alan
    Cyhoeddwyd 1971
    Printed Book
  2. 2
    gan Thompson, Alan Bruce
    Cyhoeddwyd 1985
    Printed Book
  3. 3
    Cyhoeddwyd 1947
    Awduron Eraill: ...Thompson, Alan...