John Meurig Thomas

| dateformat = dmy }}

Gwyddonydd, cemegydd ac addysgwr o Gymru oedd Syr John Meurig Thomas FRS (15 Rhagfyr 193213 Tachwedd 2020) sy'n adnabyddus am ei waith ymchwil ar gatalysis heterogenaidd.

Cafodd ei fagu yn Heol Bethesda, Tymbl a mynychodd Ysgol Ramadeg y Gwendraeth.

Wedi iddo dderbyn Cadair yr Adran Gemeg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth cafodd ei wneud yn Bennaeth Adran Gemeg ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt. Wedyn dyrchafwyd ef yn Athro preswyl a chyfarwyddwr labordy'r Sefydliad Brenhinol cyn dychwelyd i Brifysgol Caergrawnt lle'r oedd yn Athro Emeritws Cemeg Cyflwr Solet.

Enwyd y mwyn ''meurigite'' ar ei ôl.

Roedd hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor cychwynnol. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Thomas, John Meurig', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Thomas,John Meurig
    Cyhoeddwyd 1991
    Printed Book
  2. 2