George Herbert Mead

Athronydd a chymdeithasegydd o'r Unol Daleithiau oedd George Herbert Mead (27 Chwefror 186326 Ebrill 1931) sydd yn nodedig fel un o arloeswyr Pragmatiaeth a seicoleg gymdeithasol ac am ddatblygu damcaniaeth rhyngweithredaeth symbolaidd.

Ganed yn South Hadley, Massachusetts. Astudiodd yng Ngholeg Oberlin, Ohio, ac ym Mhrifysgol Harvard. Addysgodd athroniaeth a seicoleg i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Michigan o 1891 i 1894, ac ym Mhrifysgol Chicago o 1894 hyd at ei farwolaeth. Bu farw yn Chicago yn 68 oed. Ni ysgrifennodd Mead yr un llyfr yn ystod ei oes, er iddo gyhoeddi sawl erthygl. Wedi ei farwolaeth, golygwyd pedair cyfrol o'i waith, yn seiliedig ar nodiadau ei ddarlithoedd a'i bapurau personol, gan ei fyfyrwyr, a chyhoeddwyd ar ffurf ''The Philosophy of the Present'' (1932), ''Mind, Self, and Society'' (1934), ''Movements of Thought in the Nineteenth Century'' (1936), a ''The Philosophy of the Act'' (1938). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Mead, George Herbert', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Mead, George Herbert
    Cyhoeddwyd 1964
  2. 2
    gan Mead, George Herbert
    Cyhoeddwyd 1938
  3. 3
    gan Mead, George Herbert
    Cyhoeddwyd 1956
    Printed Book
  4. 4
    gan Mead, George Herbert
    Cyhoeddwyd 1956
    Printed Book