John Keegan
Hanesydd milwrol o Loegr oedd Syr John Desmond Patrick Keegan OBE FRSL (15 Mai 1934 – 2 Awst 2012). Bu'n awdur nifer o lyfrau poblogaidd ar hanes milwrol, yn olygydd amddiffyn ''The Daily Telegraph'', ac yn ddarlithydd yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst am 25 mlynedd.Ganwyd yn Llundain, ac yn ystod y Blitz cafodd ei ddanfon i Taunton fel ifaciwî. Pan oedd yn 13 oed, cafodd twbercwlosis orthopedig ac o ganlyniad ni ymunodd â'r lluoedd arfog. Astudiodd hanes yng Ngholeg Balliol, Prifysgol Rhydychen, ac yna gweithiodd yn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain. Penodwyd yn ddarlithydd hanes milwrol yn Sandhurst ym 1960 a darlithodd yno hyd 1985.
Cyhoeddwyd ei lyfr mawr cyntaf, ''The Face of Battle'', ym 1976. Roedd llawer o'i waith yn ymdrin â'r hen gwestiwn o achosion rhyfel, a pham bod dynion yn ymladd. Yn ''A History of Warfare'', a gyhoeddwyd ym 1993, dadleuodd bod gwrthdaro milwrol yn draddodiad diwylliannol a bod rhyfel diarbed yn yr 20g yn eithriad i hyn. Canolbwyntiodd Keegan ar brofiadau'r milwyr cyffredin yn ogystal â'r cadfridogion a'r arweinwyr. Cafodd ei recriwtio i'r ''Daily Telegraph'' ym 1986 gan y golygydd Max Hastings, i fod yn olygydd amddiffyn y papur newydd hwnnw. Ym 1994, cynghorodd Keegan Bill Clinton, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wrth i'r byd ddathlu 50 mlynedd ers D-Day.
Ymysg ei safbwyntiau dadleuol oedd ei farn bod y Rhyfel Byd Cyntaf yn "ddiangen", a'i feirniadaeth lym o'r damcaniaethwr milwrol Prwsiaidd Carl von Clausewitz. Cyhuddwyd Keegan hefyd o fod yn rhy Eingl-ganolog, er enghraifft yn ei honiad taw glaniadau Normandi, nid Brwydr Stalingrad, oedd methiant mwyaf Hitler ar faes y gad.
Derbynodd OBE ym 1991 a chafodd ei urddo'n farchog yn 2000. Cafodd dau fab a dwy ferch â'i wraig Susanne. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8