Eric Jones
| dateformat = dmy}}Dringwr ac anturiaethwr o Gymru yw Eric Jones (ganwyd 1935). Mae'n fwyaf adnabyddus am fod y Cymro (a'r Prydeiniwr) cyntaf i ddringo wyneb ogleddol yr Eiger yn yr Alpau, yn 1981 ar ei ben ei hun, camp a ffilmiwyd gan Leo Dickinson fel ''Eiger Solo''. Yn ogystal, mae Eric Jones yn enwog am fod y person cyntaf i ddringo Piler Canol y Brouillard ar grib ddeheuol Mont Blanc. Yn 1972, dringodd wyneb ogleddol y Matterhorn ar ei ben ei hun. Llwyddodd hefyd i ddringo y bwlch deheuol sy'n arwain at gopa Everest. Yn 1986, Eric Jones oedd y person cyntaf i neidio ''BASE'' oddi ar yr Eiger, a hynny ar ei naid ''BASE'' gyntaf. Yn ogystal, mae Eric Jones wedi neidio ''BASE'' oddi ar y rhaeadr uchaf yn y byd, sef Kerepakupai Vená (Rhaeadr Angel) yn Feneswela, ac i mewn i Ogof y Gwenoliaid (Sotano de las Golodrinas) ym Mecsico. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3