Thomas Dekker

Dramodydd a phamffledwr o Loegr oedd Thomas Dekker (tua 15721632) a flodeuai yn oes theatr Elisabeth ac Iago. Nodweddir ei waith gan bortreadau bywiog o Lundain ac iaith y ddinas, rhyddiaith llawn hwyl a mynd, plotiau rhamantaidd a moesolaidd, a themâu gwladgarol a Phrotestannaidd.

Ni wyddys llawer am fywyd Dekker. Credir iddo gael ei eni i deulu o fewnfudwyr Iseldiraidd yn Llundain. Roedd ganddo rywfaint o grap ar yr ieithoedd Lladin, Ffrangeg, ac Iseldireg, ac mae'n bosib iddo fod yn filwr yn ystod ei ieuenctid.

Sonir amdano yn gyntaf, fel dramodydd, ym 1598. Ysgrifennodd o leiaf 42 o ddramâu, naill ai ar liwt ei hun neu yn cydweithio â llenorion eraill. O'r rhai sydd yn goroesi, mae naw drama sydd yn waith Dekker yn unig, gan gynnwys ''The Shoemakers Holiday'' (1599) a ''The Honest Whore, Part 2'' (1630), a 13 drama arall a ysgrifennwyd ganddo gydag eraill, yn eu plith Thomas Middleton (''The Honest Whore, Part 1'', 1604 a ''The Roaring Girl'', 1610), John Webster (''Westward Ho'', 1604 a ''Northward Ho'', 1605), Philip Massinger, John Ford, a William Rowley. Yn ystod y ffrae a elwir "rhyfel y beirdd" neu "ryfel y theatrau", cafodd Dekker ei bortreadu ar ffurf Demetrius Fannius yn y ddrama ''Poetaster'' (1601) gan Ben Jonson. Ymatebodd Dekker yn ei waith ''Satiro-mastix'' (1601).

Dekker oedd un o brif bamffledwyr Oes Iago ac mae ei ryddiaith yn cynnwys straeon am y pla (''The Wonderfull Yeare'', 1603) ac enghreifftiau o lenyddiaeth dihirod (''The Belman of London'', 1608) mewn dynwarediad o Robert Greene, yn ogystal â ''The Guls Horne-booke'' (1609) sydd yn dychanu bywyd y theatr Lundeinig.

Treuliodd Dekker y cyfnod 1613–19 yn y carchar dyledwyr, ac mae'n debyg iddo dynnu ar ei brofiad wrth gyfrannu disgrifiadau o fywyd yn y ddalfa at chweched argraffiad ''Characters'' (1616) gan Syr Thomas Overbury. Bu Dekker hefyd yn ymwneud â pherfformiadau cyhoeddus y tu hwnt i'r llwyfan, ac yn gyfrifol am y dathliadau stryd i groesawu'r Brenin Iago i Lundain ym 1603 a phasiantau'r Arglwydd Faer ym 1612, 1627, 1628, a 1629. Er gwaethaf ei lenydda a'i drefniadau toreithiog, mae'n debyg yr oedd Dekker unwaith eto mewn dyled fawr pan fu farw tua 60 oed ym 1632. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 9 canlyniadau o 9 ar gyfer chwilio 'Dekker, Thomas .', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Dekker, Thomas
    Cyhoeddwyd 1975
    Printed Book
  2. 2
    gan Dekker, Thomas
    Cyhoeddwyd 1904
  3. 3
    gan Dekker, Thomas
    Cyhoeddwyd 1922
  4. 4
    gan Dekker, Thomas
    Cyhoeddwyd 1958
  5. 5
    gan Dekker, Thomas
    Cyhoeddwyd 1975
  6. 6
    gan Dekker, Thomas .
    Cyhoeddwyd 1966
    Printed Book
  7. 7
    gan Dekker, Thomas
    Cyhoeddwyd 1927
    Printed Book
  8. 8
    gan Bowers, Fredson; Ed, Dekker, Thomas
    Cyhoeddwyd 1953
    Printed Book
  9. 9
    Cyhoeddwyd 1973
    Awduron Eraill: ...Dekker, Thomas...
    Printed Book