Nicolaus Copernicus
Seryddwr o Bwyliad oedd Nicolaus Copernicus (19 Chwefror 1473 – 24 Mai 1543). Yn ei lyfr dylanwadol ''De Revolutionibus Orbium Coelestium'' ("Ynglŷn â chylchdroadau sfferau'r nef") gwnaeth ddamcaniaeth fod y Ddaear yn cylchdroi o amgylch yr Haul, yn hytrach na bod yr Haul yn cylchdroi o amgylch y Ddaear. Roedd yn ddamcaniaeth chwyldroadol a dadleuol iawn yn ei amser a'r gwrthwyneb i ddysgeidiaeth awdurdedig yr Eglwys Gatholig, ond gosododd sylfeini seryddiaeth fodern. Enwyd crater ar y Lleuad ar ôl iddo. Darparwyd gan Wikipedia-
1
-
2