Bell hooks
Awdur, athro, ffeminydd, ac actifydd cymdeithasol o'r Unol Daleithiau oedd Gloria Jean Watkins (25 Medi 1952 – 15 Rhagfyr 2021), a oedd yn fwy adnabyddus wrth ei ffugenw bell hooks. Roedd yr enw "bell hooks" wedi'i fenthyg gan ei hen-nain ar ochr ei mam, Bell Blair Hooks.Ffocws ysgrifennu hooks oedd y rhyngblethedd rhwng hil, cyfalafiaeth a rhywedd, a'r hyn a ddisgrifiodd fel eu gallu i greu a rhoi parhad i systemau o ormes a thra-awdurdod dosbarth. Cyhoeddodd fwy na 30 o lyfrau a nifer o erthyglau ysgolheigaidd, ymddangosodd mewn ffilmiau dogfen, a traddododd ddarlithoedd cyhoeddus gan drafod hil, dosbarth, rhyw, celf, hanes, rhywioldeb, cyfryngau torfol, a ffeministiaeth. Yn 2014, sefydlodd y Sefydliad bell hooks yng Ngholeg Berea yn Berea, Kentucky. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8