Izaak Walton

Llenor Seisnig oedd Izaak Walton (9 Awst 159315 Rhagfyr 1683) sydd yn nodedig fel awdur ''The Compleat Angler'' (1653) ac am ei fywgraffiadau.

Ganed Izaak Walton ar 9 Awst 1593 yn Stafford, Swydd Stafford. Cafodd rywfaint o addysg cyn aeth yn brentis i lieiniwr yn Llundain. Yno, daeth i feddiant siop ei hun ac enillodd incwm digonol. Darllenwr brwd oedd Walton, ac er iddo dderbyn dim ond ychydig o addysg roedd yn hoff o astudiaethau ysgolheigaidd a fe fu'n gyfeillgar â gwŷr hyddysg. Bu'n byw yn agos i Eglwys St Dunstan, ac roedd yn weithgar yn ei blwyf ac yn gyfaill i ficer yr eglwys, y bardd John Donne. Buont yn aml yn pysgota gyda'i gilydd.

Priododd Walton â Rachel Floud yn 1626, a chawsant saith o blant. Bu farw pob un ohonynt yn fabanod, ac yn 1642 bu farw Rachel hefyd. Priododd Walton ag Anne Ken, hanner-chwaer yr emynydd Thomas Ken, yn 1647, a chawsant dri phlentyn, a bu farw un ohonynt yn faban. Yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr, Brenhinwr pybyr oedd Walton. Yn 1640 ysgrifennodd ''The Life and Death of Dr. Donne'' a gyhoeddwyd mewn argraffiad o bregethau ei ddiweddar gyfaill. Cyhoeddodd ei ail fywgraffiad, ''The Life of Sir Henry Wotton'', yn 1651. Ysgrifennodd ei waith enwocaf, ''The Compleat Angler, or, the Contemplative Man’s Recreation'', yn 1653 a chyhoeddodd pedwar golygiad arall ohono yn ystod ei oes.

Yn sgil yr Adferiad, penodwyd ei gyfaill George Morley yn Esgob Caerwynt a rhoddwyd caniatâd i Walton fyw ym mhalas yr esgob am weddill ei oes. Ysgrifennodd ddau gofiant arall, ''The Life of Mr. Richard Hooker'' (1665) a ''The Life of Mr. George Herbert'' (1670), a chyhoeddwyd casgliad o'i holl fywgraffiadau yn 1670. Cyhoeddodd ei fywgraffiad olaf, am yr Esgob Robert Sanderson, yn 1678. Bu farw ar 15 Rhagfyr 1683 yng Nghaerwynt, yn 90 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 11 canlyniadau o 11 ar gyfer chwilio 'Walton, Izaak', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Walton, Izaak
    Cyhoeddwyd 1982
    Printed Book
  2. 2
    gan Walton, Izaak
    Cyhoeddwyd 1927
    Printed Book
  3. 3
  4. 4
    gan Walton, Izaak
    Cyhoeddwyd 1966
    Printed Book
  5. 5
    gan Walton, Izaak .
    Cyhoeddwyd 1906
    Printed Book
  6. 6
    gan Walton, Izaak .
    Cyhoeddwyd 2005
    Printed Book
  7. 7
    gan Walton, Izaak .
    Cyhoeddwyd 1962
    Printed Book
  8. 8
    gan Walton,Izaak
    Cyhoeddwyd 1982
    Printed Book
  9. 9
    gan Bunyan, John, Walton, Izaak
    Cyhoeddwyd 1937
    Printed Book
  10. 10
    Printed Book
  11. 11
    gan Donne, John
    Cyhoeddwyd 1971
    Awduron Eraill: ...Walton, Izaak...
    Printed Book