Alfred Russel Wallace

Biolegydd a naturiaethwr o Sais oedd Alfred Russel Wallace (8 Ionawr 18237 Tachwedd 1913). Cafodd ei eni yn Llanbadog ger Brynbuga, Mynwy, Cymru. Roedd yn naturiaethwr, daearyddwr, anthropolegydd ac yn fiolegydd bydenwog, yn bennaf gan iddo ddatblygu'r cysyniad o esblygiad o flaen, neu ar yr un pryd â Charles Darwin, er mai Darwin a gafodd y clod. Roedd yn Sosialydd ac roedd yn gefnogol i hawliau merched.

Dechreuodd ei waith ar Afon Amazon gyda'r naturiaethwr Henry Walter Bates ond cafwyd tân ar fwrdd y llong wrth ddychwelyd a chollodd ei samplau, a'r arian o'u gwerthu. Teithiodd yn ddiweddarach i Archipelago Malay - unwaith eto i gasglu samplau o fywyd gwyllt masnachol. Yno y disgrifiodd yr hyn a elwir, bellach, yn Llinell Wallace sef dosraniad pwysig rhwng Indonesia ac Awstralia. Adnabyddir ef hefyd fel "tad bioddaearyddiaeth". Bu farw yn 90 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Wallace, Alfred Russel', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Wallace, Alfred Russel
    Cyhoeddwyd 2009
    Printed Book
  2. 2
  3. 3
    Cyhoeddwyd 2008
    Awduron Eraill: ...Wallace,, Alfred Russel...
    Printed Book