Alice Roberts

| dateformat = dmy}}

Academydd, cyflwynydd teledu ac awdur o Loegr yw Alice May Roberts FRSB (ganwyd 19 Mai 1973). Mae hi'n Athro Ymgysylltu â'r Cyhoedd mewn Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Birmingham .

Cafodd Roberts ei geni ym Mryste, yn ferch i beiriannydd awyrennol ac athrawes. Cafodd ei magu yn Westbury-on-Trym lle mynychodd Ysgol y Red Maids. Ym mis Rhagfyr 1988, enillodd gystadleuaeth celf ''Blue Peter'' ar BBC1, gan ymddangos gyda'i llun a'r cyflwynwyr ar glawr blaen o'r ''Radio Times'' .

Astudiodd Roberts feddygaeth yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru (yn rhan o Brifysgol Caerdydd) heddiw). Graddiodd ym 1997 gyda gradd Baglor mewn Meddygaeth, Baglor Llawfeddygaeth (MB BCh), ar ôl ennill gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth mewn Anatomeg.

Ar ôl graddio, bu Roberts yn gweithio fel meddyg iau gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Ne Cymru am 18 mis. Ym 1998 gadawodd feddygaeth glinigol. Gweithiodd fel arddangoswr anatomeg ym Mhrifysgol Bryste, lle daeth hi'n ddarlithydd ym 1999.

Ymddangosodd Roberts ar y teledu am y tro cyntaf ym mhennod ''Time Team Live'' 2001, yn gweithio ar gladdedigaethau Eingl-Sacsonaidd yn Breamore, Hampshire. Gwasanaethodd fel arbenigwr esgyrn a chyflwynydd cyffredinol mewn sawl pennod, gan gynnwys y gyfres ddeilliedig ''Extreme Archaeology''. Ym mis Awst 2006, ymchwiliodd pennod arbennig ''Time Team'' ''Big Royal Dig'' i archaeoleg palasau brenhinol Prydain; Roberts yn un o'r prif gyflwynwyr. Roedd Roberts yn un o gyd-gyflwynwyr rheolaidd cyfres ddaearyddol ac amgylcheddol y BBC ''Coast''.

Mae Roberts yn byw gyda'i gŵr, David Stevens, a dau o blant. Cyfarfu â’i gŵr yng Nghaerdydd ym 1995 pan oedd hi'n fyfyriwr meddygol; roedd Stevens yn fyfyriwr archaeoleg. Priodasant yn 2009. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Roberts, Alice', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Roberts, Alice
    Cyhoeddwyd 2017
    Printed Book
  2. 2
    gan Roberts, Alice
    Cyhoeddwyd 2014
  3. 3
    Awduron Eraill: ...Roberts, Alice M....
    Printed Book