Robert Crumb

Arlunydd o Americanwr yw Robert Dennis Crumb (ganwyd 30 Awst 1943).

Crumb yw'r enwocaf o arlunwyr "comigion tanddaearol" yng ngwrthddiwylliant y 1960au. Dan ddylanwad LSD, datblygodd arddull unigryw o ddarlunio. Mae ei luniau yn ddychanol a chwerw ac yn aml o natur rywiol. Ymhlith ei weithiau enwocaf mae ''Keep on Truckin''' a'r cymeriadau ''Fritz the Cat'' a ''Mr Natural''. Cydweithiodd â Harvey Pekar i greu'r gyfres ''American Splendor''.

Roedd Robert Crumb a'i deulu'n destun ffilm ddogfen ''Crumb''. Heddiw mae'n byw yn Ffrainc. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Robert Crumb', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan David Zane Mairowitz
    Cyhoeddwyd 2011
    Awduron Eraill: ...Robert Crumb...
    Printed Book
  2. 2
    gan David Zane Mairowitz
    Cyhoeddwyd 1993
    Awduron Eraill: ...Robert Crumb...
    Printed Book
  3. 3
    gan Charles Bukowski
    Cyhoeddwyd 1998
    Awduron Eraill: ...Robert Crumb...
    Printed Book