Proinsias Mac Cana
Ysgolhaig Celtaidd o Iwerddon oedd Proinsias Mac Cana (6 Gorffennaf 1926 – 21 Mai 2004).Fe'i ganwyd ym Melffast. Roedd ei rieni Catholig yn gefnogwyr cenedlaetholdeb Gwyddelig. Mynychodd Brifysgol y Frenhines, Belffast, gan raddio gyda gradd mewn ieithoedd Celtaidd ym 1948. Ar ôl blwyddyn yn y Sorbonne, cwblhaodd radd meistr ym Mhrifysgol y Frenhines, lle daeth yn ddarlithydd cynorthwyol ym 1951. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd ei ddoethuriaeth. Ym 1955, symudodd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i ddod yn ddarlithydd cynorthwyol mewn Gwyddeleg Cynnar. Fe'i dyrchafwyd yn ddarlithydd yno ym 1957. Yn Aberystwyth dysgodd Hen Gymraeg a Chymraeg Canol. Ym 1961 fe'i penodwyd yn Athro Astudiaethau Celtaidd yn Sefydliad Astudiaethau Uwch Dulyn (Dublin Institute for Advanced Studies) a dwy flynedd yn ddiweddarach daeth yn Athro Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dulyn, lle daeth yn Athro Gwyddeleg Gynnar ym 1971. Ym 1985, dychwelodd i Sefydliad Astudiaethau Uwch Dulyn, ac ymddeolodd ym 1996 wedi hynny cael ei benodi i athro emeritws. Roedd yn Llywydd Academi Frenhinol Iwerddon rhwng 1979 a 1982.
Ei brif faes ymchwil oedd chwedlau Gwyddeleg Cynnar. Yn ôl yr ''Irish Times'': "Ehangodd a dyfnhaodd y ddealltwriaeth o'r cysylltiadau rhwng ieithoedd, diwylliannau a thraddodiadau pobloedd Celtaidd yn Iwerddon a Phrydain. A thrwy ei ysgolheictod a'i ddysgeidiaeth roedd yn ddehonglwr o'r Gwyddelod i'r Cymry ac o'r Cymry i'r Gwyddelod." Darparwyd gan Wikipedia
-
1