Nikita Lalwani

Nofelydd yw Nikita Lalwani (ganwyd 1973). Fe'i ganwyd yn Kota, Rajasthan  a'i magwyd yng Nghaerdydd.

Mae ei gwaith wedi cael ei gyfieithu i un ar bymtheg o ieithoedd. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Bryste

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, ''Gifted'', yn 2008. Cafodd y nofel ei chynnwys ar restr hir Gwobr Man Booker a rhestr fer Gwobr Nofel Gyntaf Costa. Hefyd, enwebwyd Lalwani fel ''Nofelydd Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times''. Ym Mehefin 2008, enillodd Lalwani y Wobr Desmond Elliott gynaf am ffuglen. Rhoddodd y wobr o £10,000 i ymgyrchwyr hawliau dynol, Liberty.

Cyhoeddwyd ail nofel Lalwani, ''The Village'',  yn 2012. Cafodd y nofel ei dewis fel un o wyth o deitlau ymgyrch Fiction Uncovered yn 2013.

Mae Lalwani wedi ysgrifennu ar gyfer ''The Guardian'', ''New Statesman'' a The Observer. Hefyd, mae wedi cyfrannu at ''AIDS Sutra'', antholeg yn archwilio bywydau pobl ifanc sy'n byw gyda chyflwr HIV/AIDS yn India.

Mae Lalwani yn byw yng Ngogledd Llundain. Yn 2013, roedd hi'n un o feirniaid Gwobr Orwell, gwobr fwyaf nodedig Prydain ym maes ysgrifennu gwleidyddol. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Nikita Lalwani', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Nikita Lalwani
    Cyhoeddwyd 2012
    Printed Book
  2. 2
    gan Nikita Lalwani
    Cyhoeddwyd 2007
    Printed Book