Jawaharlal Nehru

Roedd Jawaharlal Nehru (Hindi: जवाहरलाल नेहरू) (14 Tachwedd 188927 Mai 1964) yn un o brif arweinyddion y mudiad i ennill annibyniaeth i India ac yn ddiweddarach yn Brif Weinidog cyntaf India annibynnol. Weithiau gelwid ef yn Pandit Nehru; mae "Pandit" yn golygu "ysgolhaig".

Ganed Jawaharlal Nehru yn ninas Allahabad, ger glannau Afon Ganga ac yn awr yn nhalaith Uttar Pradesh. Roedd ei dad, Motilal Nehru, yn fargyfreithiwr cefnog. Yn 15 oed gyrrwyd Nehru i Loegr i Ysgol Harrow; yn ddiweddarach astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt cyn cael ei hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain. Wedi dychwelyd i India, priododd Kamala Kaul ar 8 Chwefror 1916. Y flwyddyn wedyn ganwyd eu hunig blentyn, Indira Priyadarshini, yn ddiweddarach Indira Gandhi. Dechreuodd Nehru gymeryd diddordeb yn y mudiad cenedlaethol, a daeth dan ddylanwad Mahatma Gandhi.

Erbyn 1929 roedd yn un o brif arweinwyr y mudiad cenedlaethol, a chafodd ei garcharu nifer o weithiau. Bu farw Kamala Nehru yn 1938. Pan enillodd India annibyniaeth yn 1947, daeth Nehru yn Brif Weinidog. Dan ei arweiniad ef, enillodd Plaid y Gyngres fuddugoliaeth ysgubol yn etholiad 1952. Dan Nehru, dilynodd India bolisiau sosialaidd. Enillwyd buddugoliaeth arall yn etholiad 1957, ac eto yn 1962 ond gyda mwyafrif llai. Ar y llwyfan ryngwladol, roedd yn arweinydd blaenllaw o'r Mudiad Heb Aliniad. Ym Mai 1964, dioddefodd Nehru drawiad ar y galon, a bu farw ar 27 Mai. Yn unol a'r arferiad Hindwaidd, llosgwyd ei gorff ger glan Afon Yamuna yn Delhi, ym mhresenoldeb cannoedd o filoedd o alarwyr.

Yn ddiweddarach daeth ei ferch, Indira, yn Brif Weinidog, a bu ei ŵyr Rajiv Gandhi yn Brif Weinidog hefyd yn ei dro. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 367 ar gyfer chwilio 'Nehru, Jawaharlal', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1991
    Printed Book
  2. 2
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1988
    Printed Book
  3. 3
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1984
    Printed Book
  4. 4
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1989
    Printed Book
  5. 5
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1981
    Printed Book
  6. 6
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1982
    Printed Book
  7. 7
    Printed Book
  8. 8
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1982
    Printed Book
  9. 9
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1961
    Printed Book
  10. 10
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1972
    Printed Book
  11. 11
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1962
    Printed Book
  12. 12
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1962
    Printed Book
  13. 13
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1967
    Printed Book
  14. 14
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1972
    Printed Book
  15. 15
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1971
    Printed Book
  16. 16
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1967
    Printed Book
  17. 17
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1967
    Printed Book
  18. 18
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1970
    Printed Book
  19. 19
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1968
    Printed Book
  20. 20
    gan Nehru, Jawaharlal
    Cyhoeddwyd 1972
    Printed Book