Molière

250px|bawd|Portread o Molière

Dramodydd o Ffrainc oedd Jean-Baptiste Poquelin, neu Molière (15 Ionawr, 1622 - 17 Chwefror, 1673).

Cafodd ei eni ym Mharis. Bu'n teithio Ffrainc gyda'r actores Madeleine Béjart a'u cwmni, ''l'Illustre Théâtre'' am nifer o flynyddoedd. Ei ddrama olaf oedd ''Y Claf Diglefyd (Le Malade imaginaire)'', a berfformiwyd gyntaf yn gynnar yn 1673. Cymerwyd yr awdur yn wael yn ystod y pedwerydd perfformiad, ar 17 Chwefror, 1673, a bu farw yn fuan wedyn.

Cyfeirir at y Ffrangeg, ac yn benodol Ffrangeg coeth, weithiau fel ''la langue de Molière'' (iaith Molière), yn yr un ffordd ag y cyfeirir at y Gymraeg fel iaith Dafydd ap Gwilym, neu'r Eidaleg fel iaith Dante. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Moliere, 1622-1673', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Moliere, 1622-1673
    Cyhoeddwyd 1981
    Printed Book
  2. 2
    gan Moliere,1622-1673
    Cyhoeddwyd 1957
    Printed Book
  3. 3
    gan Moliere, 1622-1673
    Cyhoeddwyd 1994
    Printed Book