Milan Kundera

Llenor Tsiecaidd a ymsefydlodd yn Ffrainc oedd Milan Kundera (1 Ebrill 192911 Gorffennaf 2023) sydd yn nodedig am ei nofelau athronyddol a mewnsyllol, yn yr ieithoedd Tsieceg a Ffrangeg. Mae ei waith yn archwilio themâu megis hunaniaeth, cof, cariad, a'r cyflwr dynol, ac yn cyfuno elfennau o ffuglen, athroniaeth, a sylwebaeth wleidyddol.

Ganed ef yn Brno, Tsiecoslofacia, yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, yn fab i'r pianydd a cherddolegydd Ludvik Kundera. Astudiodd gerddoriaeth a llenyddiaeth ym Mhrifysgol Karlova, Prag, cyn ennill ei damaid fel cerddor jazz,a barddoni. Dechreuodd ysgrifennu dramâu yn y 1950au, ac yn y diwedd trodd at y nofel. Derbyniodd glod beirniadol yn Tsiecoslofacia am ei nofelau cynnar megis ''Žert'' (1967) a ''Život je jinde'' (1973).

Fodd bynnag, mynegodd Kundera wrthwynebiad i'r llywodraeth gomiwnyddol, ac o'r herwydd fe wynebai her i'w yrfa lenyddol yn ei famwlad. Yn sgil goresgyniad Tsiecoslofacia gan luoedd Cytundeb Warsaw ym 1968, cafodd ei siomi gan y gormes gwleidyddol a'r cyfyngiadau ar ryddiad mynegiant yn y bloc dwyreiniol. Cafodd ei wthio i'r cyrion gan yr awdurdodau a'i ynysu gan sefydliadau diwylliannol y wlad, ac o'r diwedd penderfynodd mynd yn alltud.

Ymfudodd Kundera i Ffrainc ym 1975, a derbyniodd ddinasyddiaeth Ffrengig ym 1981. Dechreuodd ysgrifennu trwy gyfrwng y Ffrangeg, a daeth yn un o brif ffigurau byd llenyddol Ffrainc. Daeth i sylw yn ei wlad fabwysiedig gyda'i nofel ''Kniha smíchu a zapomnění'' (1979), sy'n ymwneud â themâu cof, gwleidyddiaeth, a rhyddid personol. Daeth i sylw rhyngwladol gyda'i gampwaith ''Nesnesitelná lehkost bytí'' (1984), nofel a osodir yng nghyfnod Gwanwyn Prag a'r adladd, ac sy'n ymwneud â pherthnasau dynol, y pwysau a deimlir wrth wneud dewisiadau, a'r chwilfa am ystyr bywyd.

Mae ei weithiau eraill yn cynnwys ''Nesmrtelnost'' (1988), ''La Lenteur'' (1995), ''L'Identité'' (1998), a ''L'Ignorance'' (2000). Rhoddwyd i Kundera nifer o wobrau ac anrhydeddau, gan gynnwys Gwobr Jeriwsalem am Ryddid yr Unigolyn mewn Cymdeithas, a Gwobr Wladwriaethol Awstria am Lenyddiaeth Ewropeaidd. Bu farw Milan Kundera ym Mharis yn 94 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 24 ar gyfer chwilio 'Milan Kundera', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 1993
    Printed Book
  2. 2
    eLyfr
  3. 3
    Printed Book
  4. 4
    gan Milan, Kundera
    Cyhoeddwyd 1991
    Printed Book
  5. 5
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 2018
  6. 6
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 2020
  7. 7
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 2018
  8. 8
    Printed Book
  9. 9
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 2014
    Printed Book
  10. 10
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 2009
    Printed Book
  11. 11
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 1993
    Printed Book
  12. 12
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 1998
    Printed Book
  13. 13
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 1999
    Printed Book
  14. 14
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 1997
    Printed Book
  15. 15
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 1996
    Printed Book
  16. 16
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 1998
    Printed Book
  17. 17
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 2002
    Printed Book
  18. 18
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 1996
    Printed Book
  19. 19
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 1987
    Printed Book
  20. 20
    gan Milan Kundera
    Cyhoeddwyd 1996
    Printed Book