György Lukács

Athronydd Marcsaidd, beirniad llenyddol, a gwleidydd comiwnyddol o Hwngari oedd György Lukács (13 Ebrill 18854 Mehefin 1971).

Ganed yn Budapest, Awstria-Hwngari, i deulu o Iddewon cefnog. Ymaelododd â Phlaid Gomiwnyddol Hwngari ym 1918, a gwasanaethodd yn gomisâr diwylliant ac addysg yn llywodraeth Béla Kun yng Ngweriniaeth Sofietaidd Hwngari (1919). Yn sgil cwymp Kun, symudodd Lukács i Fienna ac yno bu'n weithgar yn y mudiad tanddaearol. Golygodd y cylchgrawn ''Kommunismus'' a chyhoeddodd ei gyfrol arloesol ''Geschichte und Klassenbewußtsein'' (1923; "Hanes ac Ymwybyddiaeth o Ddosbarth"). Datblygodd Lukács syniadaeth Farcsaidd a oedd yn debycach i fydolwg athronyddol a diwylliannol nac i ddadansoddiad gwyddonol.

Symudodd Lukács i Ferlin ym 1929. Aeth i'r Undeb Sofietaidd ym 1930–31 i fynychu Athrofa Marx-Engels ym Moscfa, a dychwelodd yno ym 1933 i astudio athroniaeth yn Athrofa'r Academi Rwsiaidd. Arhosodd yn yr Undeb Sofietaidd drwy gydol yr Ail Ryfel Byd, a dychwelodd i'w famwlad ym 1945. Fe'i etholwyd yn aelod o Senedd Hwngari a chafodd swydd athro estheteg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Budapest. Lukács oedd un o brif arweinwyr Chwyldro Hwngari ym 1956 a gwasanaethodd yn weinidog diwylliant yn llywodraeth Imre Nagy. Cafodd ei arestio a'i alltudio i Rwmania am ei ran yn y chwyldro, ond rhoddwyd caniatâd iddo ddychwelyd i Hwngari ym 1957. Bu farw yn Budapest yn 86 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Lukács, György', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Lukács, György
    Cyhoeddwyd 1993
    Printed Book
  2. 2
    gan Lukács, György
    Cyhoeddwyd 1973
    Printed Book
  3. 3
    gan Lukács, György
    Cyhoeddwyd 1993
    Printed Book
  4. 4
    gan Lukacs, Gyorgy
    Cyhoeddwyd 1964
    Printed Book