William Langland

Bardd o Loegr oedd William Langland (c. 1330 – c. 1400) a briodolir y gerdd Saesneg Canol ''Piers Plowman'' (tua 1362) iddo. Traethiad alegorïaidd o hanes Cristnogaeth yw ''Piers Plowman'', gwaith a gafodd gryn ddylanwad ar lenyddiaeth Saesneg Canol a llên Lloegr hyd at gyfnod y Stiwartiaid, yr hyn a elwir traddodiad Piers Plowman.

Egyr ''Piers Plowman'' gyda'r bardd yn crwydro Bryniau Malvern, ac oherwydd hynny credir iddo hanu o'r ardal ger y Mers, o bosib Ledbury neu Colwall yn Swydd Henffordd, Cleobury Mortimer yn Swydd Amwythig, neu Malvern yn Swydd Gaerwrangon. Mae ambell ysgolhaig wedi sylwi ar debygrwydd rhwng cerfiadau ar seddau côr ym Mhriordy Sant Giles, Little Malvern, a delweddaeth y gerdd.

Dengys y gerdd wybodaeth sylweddol o hanes y ffydd Gristnogol, y ffurfwasanaeth, yr Ysgrythur Lân, ac esboniadaeth Feiblaidd draddodiadol, yn ogystal â chrap ar egwyddorion diwinyddol sylfaenol yr Eglwys. Am hynny, awgrymir iddo weithio mewn swydd eglwysig, ac o bosib wedi derbyn ei addysg yn ysgol y Benedictiaid yn Great Malvern. Ceir cyfeiriadau at nifer o leoedd yn Llundain hefyd – gan gynnwys Cornhill, Cock Lane, Cheap, a Court of the Arches – sy'n awgrymu iddo dreulio digon o'i oes yn y ddinas honno. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 13 canlyniadau o 13 ar gyfer chwilio 'Langland, William .', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Langland, William
    Cyhoeddwyd 1968
    Printed Book
  2. 2
    gan Langland, William
    Cyhoeddwyd 1970
    Printed Book
  3. 3
  4. 4
    gan Langland, William
    Cyhoeddwyd 1967
  5. 5
  6. 6
    gan Langland, William
    Cyhoeddwyd 1965
  7. 7
  8. 8
    gan Langland, William
    Cyhoeddwyd 1978
    Printed Book
  9. 9
    gan Langland, William
    Cyhoeddwyd 1972
    Printed Book
  10. 10
    gan Langland, William
    Cyhoeddwyd 1967
    Printed Book
  11. 11
    gan Langland, William .
    Cyhoeddwyd 1961
    Printed Book
  12. 12
    gan Langland, William .
    Cyhoeddwyd 1961
    Printed Book
  13. 13
    gan Langland,William
    Cyhoeddwyd 1869
    Printed Book