Krishna

:''Am ystyron eraill gweler Krishna (gwahaniaethu).'' bawd|Krishna yn dawnsio ar lotws, darlun o Tamil Nadu, tua 1825. Duw a addolir mewn sawl traddodiad Hindŵaidd yw Krishna (Sansgrit: कृष्ण). Mae'n ffigwr canolog yn addoliad enwadau Vaishnaviaeth. Balarama yw ei "frawd hŷn" neu ''avatar'' cyntaf.

Darlunir Krishna fel rheol fel dyn ifanc croen tywyll neu glas, neu fel baban, fel bugail gwartheg ifanc yn canu'r ffliwt, fel yn y Bhagavata Purana, neu fel tywysog ifanc sy'n rhoi cyngor athronyddol, e.e. fel cyfaill Arjuna yn y ''Bhagavad Gita'' (rhan o'r ''Mahabharata''). Ei arf yw disgen (Sudarshana Chakra)ac mae'n marchogaeth Garuda.

Ceir nifer o chwedlau am Krishna mewn sawl traddodiad diwinyddol ac ysgol athroniaeth Hindŵaidd. Er bod y manylion yn amrywio yn ôl dysgeidiaeth y traddodiad, mae rhai elfennau yn ganolog. Mae'r rhain yn cynnwys ymgnawdoliad dwyfol (''avatar''), plentyndod a llencyndod fel bugail gwartheg yng nghanol natur, yn aml yng nghwmni merched hardd, a gyrfa fel rhyfelwr arwrol ac athro neu gynghorydd. Mae'n enwog am ei garwriaethau niferus ac mae ganddo bedwar cymar, sef y duwiesau Radha, Rukmini, Satyabhama a Janbavati.

Mae addoliad Krishna yn rhan o draddodiad Vaishnaviaeth, sy'n ystyried mai Vishnu yw'r Duw Goruchel ac yn addoli ei ''avatars'' cysylltiedig, eu cymheiriaid hwy, a'r seintiau ac athrawon a gysylltir â nhw. Credir fod Krishna yn ymgnawdoliad llawn o'r duw Vishnu ac felly'n un â Vishnu ei hun. Ond mae'r union berthynas rhwng Krishna a Vishnu, fel mae wedi datblygu dros y canrifoedd, yn gymhleth ac amrywiol, gyda llawer o'i addolwyr yn ei ystyried yn dduw ar wahân, yn Oruchel ynddo ei hun. Mae'r traddodiadau Vaishnavaidd i gyd yn cydnabod fod Krishna yn ''avatar'' o Vishnu; mae eraill yn uniaethu Krishna gyda Vishnu tra bod rhai traddodiadau neilltuol, fel Vaishnavieth Gaudiya, Vallabha Sampradaya a'r Nimbarka Sampradaya, yn gweld Krishna fel y ''svayam bhagavan'', y Duw cysefin a thragwyddol, neu'r Arglwydd ei hun.

Nid yw addoliad Krishna a pharch ato yn gyfyngedig i Hindŵaeth. Mae Jainiaeth yn ei gyfrif yn un o'r Tirthankara. Mae'n ymddangos fel arwr un o chwedlau'r Jataka mewn Bwdhaeth. Mae'r Baha'i yn ei ystyried yn broffwyd yn llinach Abraham, Moses, Iesu, Mohamed ac eraill, yn cynnwys y Báb. Mae'r Gymuned Islamaidd Ahmadiyya yn ei ystyried yn broffwyd hefyd. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 5,903 ar gyfer chwilio 'Krishna', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Krishna, S.
    Cyhoeddwyd 1977
    Printed Book
  2. 2
    gan Krishna
    Cyhoeddwyd 1969
    Printed Book
  3. 3
  4. 4
    gan Krishna, S.
    Cyhoeddwyd 1969
    Printed Book
  5. 5
    gan Krishna
    Cyhoeddwyd 1984
    Printed Book
  6. 6
    gan Krishna
    Cyhoeddwyd 1983
    Printed Book
  7. 7
    gan Krishna
    Cyhoeddwyd 1983
    Printed Book
  8. 8
    gan Krishna, S.
    Cyhoeddwyd 1973
    Printed Book
  9. 9
    gan Krishna, S.
    Cyhoeddwyd 1977
    Printed Book
  10. 10
    gan Krishna S.
    Cyhoeddwyd 1968
    Printed Book
  11. 11
    Printed Book
  12. 12
    gan Krishna, S S.
    Cyhoeddwyd 2011
    Printed Book
  13. 13
    gan Krishna T S
    Cyhoeddwyd 2015
    Printed Book
  14. 14
    gan Krishna, Sumi, Sumi Krishna
    Cyhoeddwyd 2008
    Printed Book
  15. 15
    gan Krishna; Author
    Cyhoeddwyd 2005
    Printed Book
  16. 16
    gan Krishna Chaitanya
    Cyhoeddwyd 1994
    Printed Book
  17. 17
    gan Krishna Vikal
    Cyhoeddwyd 1984
    Printed Book
  18. 18
    gan Daya Krishna
    Cyhoeddwyd 1989
    Printed Book
  19. 19
    gan Daya Krishna
    Cyhoeddwyd 1991
    Printed Book
  20. 20
    gan Daya Krishna
    Cyhoeddwyd 1969
    Printed Book