Iran

| ynganiad = | math = gwlad image1 sir | enw_brodorol = ''Gweriniaeth Islamaidd Iran''
''جمهوری اسلامی ايران'' (Persieg)
''Jomhuri-ye Eslāmi-ye Irān''
| suppressfields= image1 | map lleoliad = 270px | banergwlad = 170px | arwyddair = Annibyniaeth, Rhyddid, Gweriniaeth Islamaidd }}

Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfri'n rhan o'r Dwyrain Canol yw Iran (Persieg: ایران, sy'n cael ei lefaru fel [dʒomhuːɾije eslɒːmije iːɾɒn]), neu Iran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia. Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar Fôr Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas y wlad, a'r ddinas fwyaf. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd.

Mae Iran yn gartref i un o wareiddiadau hyna'r byd,, gan ddechrau gyda ffurfiad teyrnasoedd yr Elamite yn y bedwaredd mileniwm CC. Cafodd ei uno gyntaf gan y Mediaid yn y 7g CC, a a thyfodd i'w hanterth (yn diriogaethol) yn y 6g CC, pan sefydlodd Cyrus Fawr yr Ymerodraeth Achaemenaidd, a ddaeth yn un o'r ymerodraethau mwyaf mewn hanes a'r ymerodraeth '''superpower''' gyntaf yn y byd.

Syrthiodd yr ymerodraeth i Alecsander Fawr yn y 4g CC ac fe'i rhannwyd yn sawl gwladwriaeth Hellenistig. Sefydlodd gwrthryfel yn Iran Ymerodraeth Parthian yn y 3g CC, a olynwyd yn y drydedd ganrif OC gan yr Ymerodraeth Sassanaidd, pŵer mwya'r byd am y pedair canrif nesaf. Gorchfygodd Mwslimiaid Arabaidd yr ymerodraeth yn y 7g OC, a arweiniodd at Islameiddio Iran. Wedi hynny daeth yn brif ganolfan diwylliant a dysgu Islamaidd, gyda'i chelf, llenyddiaeth, athroniaeth, a phensaernïaeth yn ymledu ar draws y byd Mwslemaidd a thu hwnt yn ystod yr Oes Aur Islamaidd. Dros y ddwy ganrif nesaf, daeth cyfres o linachoedd Mwslimaidd brodorol i'r amlwg cyn i'r Twrciaid Seljuq a'r Mongols orchfygu'r rhanbarth.

Yn y 15g, ailsefydlodd y Safavids brodorol wladwriaeth unedig Iran a hunaniaeth genedlaethol a throsi'r wlad yn Islam Shia. O dan deyrnasiad Nader Shah yn y 18g, daeth Iran yn bwer mawr yn y byd unwaith eto, ond erbyn y 19g arweiniodd cyfres o wrthdaro â Rwsia at golledion tiriogaethol sylweddol. Yn gynnar yn yr 20g cafwyd Chwyldro Cyfansoddiadol Persia. Arweiniodd ymdrechion i wladoli ei gyflenwad tanwydd ffosil gan gwmnïau’r Gorllewin at ''coup'' Eingl-Americanaidd ym 1953, a arweiniodd at fwy o reolaeth unbenaethol o dan Mohammad Reza Pahlavi a dylanwad gwleidyddol cynyddol y Gorllewin. Aeth ati i lansio cyfres bellgyrhaeddol o ddiwygiadau ym 1963. Ar ôl Chwyldro Islamaidd Iran, sefydlwyd y Weriniaeth Islamaidd bresennol ym 1979 gan Ruhollah Khomeini, a ddaeth yn Arweinydd Goruchaf cynta'r wlad.

Ystyrir yn eang bod llywodraeth Iran yn awdurdodaidd, ac mae wedi denu beirniadaeth eang am ei chyfyngiadau a'i cham-driniaeth yn erbyn hawliau dynol a rhyddid sifil, gan gynnwys honiadau o sawl ymateb treisgar i brotestiadau torfol, etholiadau annheg., a hawliau cyfyngedig i fenywod a phlant.

Caiff Iran ei hystyried yn bwer rhanbarthol a chanolig, ac mae ei lleoliad yn cael ei gyfri'n strategol ac yn ddaear-wleidyddol (geopolitaidd) ar gyfandir Asia. Mae'n aelod sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, yr ECO, yr OIC, ac OPEC. Mae gan y wlad gronfeydd wrth gefn enfawr o danwydd ffosil - gan gynnwys cyflenwad nwy naturiol ail-fwya'r byd a'r bedwaredd gronfa olew fwyaf. Adlewyrchir etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog y wlad yn rhannol gan ei 22 Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae Iran yn parhau i fod yn gymdeithas luosog sy'n cynnwys nifer o grwpiau ethnig, ieithyddol a chrefyddol, a'r mwyaf ohonyn nhw yw'r Persiaid, yr Azeris, y Cwrdiaid, y Mazandaranis a'r Lurs. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 23 ar gyfer chwilio 'Iran', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Iran
    Cyhoeddwyd 1967
    Printed Book
  2. 2
    gan Iran
    Cyhoeddwyd 1974
    Printed Book
  3. 3
    gan Iran
    Cyhoeddwyd 1974
    Printed Book
  4. 4
    gan Iran
    Cyhoeddwyd 1967
    Printed Book
  5. 5
    gan Iran
    Cyhoeddwyd 1967
    Printed Book
  6. 6
    gan Iran
    Cyhoeddwyd 1974
    Printed Book
  7. 7
    gan Iran
    Cyhoeddwyd 1967
  8. 8
    gan Iran
    Cyhoeddwyd 1974
  9. 9
    gan Iran
    Cyhoeddwyd 1967
  10. 10
    gan Iran
  11. 11
    gan Iran Livine
    Cyhoeddwyd 2009
    Printed Book
  12. 12
    gan Fraser, Iran
    Cyhoeddwyd 1957
  13. 13
    gan Robb, Iran
    Cyhoeddwyd 1968
  14. 14
    gan ഇറാന്‍, Iran
    Cyhoeddwyd 1974
    Printed Book
  15. 15
    gan ഇറാന്‍, Iran
    Cyhoeddwyd 1967
    Printed Book
  16. 16
    gan ഇറാന്‍, Iran
    Cyhoeddwyd 1966
    Printed Book
  17. 17
  18. 18
    gan Tannehill, Iran Roy
    Cyhoeddwyd 1956
  19. 19
    gan Kerr, Iran J.
    Cyhoeddwyd 1995
  20. 20
    Printed Book