Robert Hooke
Gwyddonydd, athronydd a dyfeisiwr o Sais oedd Robert Hooke (28 GorffennafEfallai y gellir rhannu ei fywyd yn dair rhanː y gwyddonydd ymchwilgar, diarian; y gweithiwr caled, ariannog ac yn drydydd y cyfnod o salwch mawr a chenfigen cydweithwyr. Efallai mai'r rheswm pam na fu tan heddiw yn llygad y cyhoedd, rhyw lawer, yw'r trydydd, er i Alan Chapman, yn ddiweddar ei alw'n "Leonardo Lloegr".
Gwnaeth lawer o arbrofion ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol yn ogystal â bod yn aelod o Gyngor y Gymdeithas. Roedd hefyd yn Athro ac yn 'Brif Syrferwr Llundain', yn dilyn tân mawr 1666 - gan fynd ati i wneud dros hanner yr arolygon ar ei liwt ei hun. Roedd hefyd yn bensaer pwysig iawn ar y pryd; bellach fodd bynnag, dim ond llond dwrn o adeiladau o'i eiddo sydd bellach yn sefyll. Creodd nifer o gyfyngiadau cynllunio ar gyfer Llundain, ac mae eu dylanwad yn parhau hyd heddiw yn y byd cynllunio.
Yn ei lyfr ''Early Science in Oxford'' mae Robert Gunther yn neilltuo 5 rhan allan o gyfanswm o 14 i Hooke. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3