Eric Hobsbawm
Hanesydd ac awdur Marcsaidd o Loegr oedd Eric John Ernest Hobsbawm (9 Mehefin, 1917 – 1 Hydref 2012), a elwir gan amlaf yn "Eric Hobsbawm" neu'n "E. J. Hobsbawm". Ymhlith ei weithiau enwocaf yw ei driawd ar "y bedwaredd ganrif ar bymtheg hir": ''The Age of Revolution: Europe 1789–1848'', ''The Age of Capital: 1848–1875'', ac ''The Age of Empire: 1875–1914''; a'i lyfr ar "yr ugeinfed ganrif fer", ''The Age of Extremes: The Short Twentieth Century, 1914–1991''.Cafodd ei eni i deulu Iddewig yn Alecsandria, yr Aifft, ym 1917, a symudodd i Fienna pan oedd yn ddwyflwydd oed. Masnachwr Prydeinig oedd ei dad a llenores Awstriaidd oedd ei fam, a bu farw'r ddau yn ystod y Dirwasgiad Mawr. Ymunodd Eric Hobsbawn â'r Blaid Gomiwnyddol yn 14 oed tra'n byw ym Merlin â'i ewythr. Ymfudodd i Loegr ym 1933 ac aeth i Brifysgol Caergrawnt, lle bu'n gyfaill i Raymond Williams. Penodwyd ef yn ddarlithydd hanes yng Ngholeg Birkbeck ym 1947 a dyrchafwyd yn athro ym 1970. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, ''Interesting Times: A Twentieth Century Life'', yn 2002.
Bu farw ar 1 Hydref 2012 yn y Royal Free Hospital, Llundain, o niwmonia. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20