Hindŵaeth
Hindŵaeth yw crefydd gynhenid isgyfandir India a phrif grefydd India ei hun heddiw. Mae’n un o'r crefyddau hynaf a gychwynnodd ryw bedair mil o flynyddoedd yn ôl.Bydd rhai o ddilynwyr y grefydd hon yn addoli un duw yn unig, ond bydd eraill yn addoli llawer. Y duw pwysicaf oll yw Brahman, ond nid yw’n bosibl i neb ei addoli yn uniongyrchol; mae’n rhaid agosáu ato drwy gyfrwng duwiau eraill megis Brahma y Creawdwr, Sifa y Dinistriwr neu Fisnw y Ceidwad sydd hefyd yn dduw cariad.
Cred yr Hindŵ fod gan ddyn atman oddi wrth Brahman, sef yr enaid tragwyddol sydd yn llifo drwy bob math o fywyd, boed anifail neu lysieuyn. Gall yr enaid hwn gael ei aileni mewn gwahanol ffurfiau dro ar ôl tro yn unol â chyfundrefn o wobrwyo a chosbi a elwir karma.
Os bu bywyd dyn yn ddrwg, mae'n debyg mai fel planhigyn neu anifail y bydd ei enaid yn ailymddangos, a bydd yn rhaid i’r enaid wneud hyn sawl gwaith cyn cael trigo mewn corff dynol eilwaith. Os bu bywyd dyn yn un da a rhinweddol, bydd ei enaid yn symud yn agosach at yr hapusrwydd a ddaw o fod gyda Brahman.
Maent hefyd yn addoli mewn Mandir, sef math o deml. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20