Henry David Thoreau

Traethodydd ac athronydd o'r Unol Daleithiau oedd Henry David Thoreau (12 Gorffennaf 18176 Mai 1862).

Roedd yn gyfaill agos i brif aelodau'r mudiad trosgynoliaeth. Dylanwadwyd arno gan Ralph Waldo Emerson, a roddodd fenthyg gaban i Thoreau, wrth ymyl Walden Pond yn Concord, Massachusetts. Ysbrydolodd Thoreau gan ei arhosiad yno a disgrifiodd hynny yn ei lyfr ''Walden'' (1854), ei waith mwyaf adnabyddus, sy'n bennaf yn fyfyrdod ar fyw'n syml mewn amgylchedd naturiol.

Gwaith pwysig arall yw traethawd Thoreau ''"Civil Disobedience"'' ("Anufudd-dod Sifil", 1849), sy'n dadlau bod gan unigolyn ddyletswydd i wrthwynebu gweithredoedd anghyfiawn llywodraeth sifil. Dylanwadodd ei athroniaeth ynghylch anufudd-dod sifil ar feddyliau a gweithredoedd ffigurau nodedig o'r fath fel Leo Tolstoy, Mahatma Gandhi, a Martin Luther King. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6 ar gyfer chwilio 'Henry David Thoreau', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    eLyfr
  2. 2
    eLyfr
  3. 3
    gan Henry David Thoreau
    Cyhoeddwyd 2012
    Printed Book
  4. 4
    gan Henry David Thoreau
    Cyhoeddwyd 2010
    Printed Book
  5. 5
    Printed Book
  6. 6