David Halberstam

Newyddiadurwr ac awdur o'r Unol Daleithiau oedd David Halberstam (10 Ebrill 193423 Ebrill 2007). Roedd yn ohebydd rhyfel yn Fietnam yn ystod yr argyfwng Bwdhaidd a Rhyfel Fietnam, ac enillodd Wobr Pulitzer ym 1964 am ei adroddiadau o'r wlad honno. Roedd yn rhan o garfan o newyddiadurwyr, gan gynnwys Peter Arnett a Malcolm Browne, a gafodd ffrae yng Ngorffennaf 1963 gyda heddlu cudd Ngô Đình Nhu. Ei lyfr enwocaf yw ''The Best and the Brightest'' (1972), hanes o weinyddiaethau'r Arlywydd Kennedy a'r Arlywydd Johnson a sut y ddatblygodd bolisi tramor Americanaidd yn y 1960au i ddanfon lluoedd i Fietnam.

Bu farw mewn damwain ffordd yn Menlo Park, Califfornia. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Halberstam, David', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Halberstam, David
    Cyhoeddwyd 1991
    Printed Book
  2. 2
    gan Halberstam, David_
    Cyhoeddwyd 1991