Robert Greene

Dramodydd a bardd o Sais oedd Robert Greene (Gorffennaf 15583 Medi 1592). Fe'i adnabyddir am ei gomedïau rhamant, ac roedd yn bamffledwr brwd, yn un o Ffraethebwyr y Prifysgolion yn Oes Elisabeth, ac yn hunangofiannydd o fri.

Ganwyd yn Norwich, Norfolk, ac astudiodd yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Symudodd i Lundain ac yno daeth i adnabod byd lladron a thwyllwyr, a oedd yn sail i sawl enghraifft o lên y dihiryn ganddo. Ymdrechodd Greene i ddilyn ffasiynau llenyddol er mwyn apelio at y cyhoedd, ac yng nghyfnod cynnar ei yrfa efelychodd y rhamant ''Euphues'' gan John Lyly.

Yn niwedd y 1580au, cyfansoddodd Greene fugeilgerddi ar batrwn ''Arcadia'' gan Syr Philip Sidney. Yr enwocaf ohonynt ydy ''Pandosto'' (1588), a'r gwaith hwn oedd ffynhonnell William Shakespeare ar gyfer ''The Winter's Tale''. Yn ei flynyddoedd olaf, ysgrifennodd Greene bamffledi didactig, yn eu plith ''Greenes never too late'' (1590). Mae'n debyg taw ei waith enwocaf ydy ''Greenes groats-worth of witte, bought with a million of repentance'', a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth yn 1592. Yn y pamffled hwn mae'r cyfeiriad cynharaf at Shakespeare, a ddisgrifir gan yr awdur yn "''upstart Crow, beautified with our feathers, that with his Tygers heart wrapt in a Players hide, supposes he is as well able to bumbast out a blanke verse as the best of you . . . in his owne conceit the onely Shake-scene in a countrie".

O ran ei ddramâu, y mwyaf poblogaidd ohonynt yw ''The Honorable Historie of frier Bacon, and frier Bongay'' (cyhoeddwyd 1594) a ''The Scottish Historie of James the fourth, slaine at Flodden'' (cyhoeddwyd 1598). Ymhlith ei weithiau diweddaraf mae ''A Notable Discovery of Coosnage'' (1591) ac ''A disputation betweene a hee conny-catcher and a shee conny-catcher'' (1592). Bu farw yn Llundain yn 34 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 33 ar gyfer chwilio 'Greene, Robert', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 1964
    Printed Book
  2. 2
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 1998
    Printed Book
  3. 3
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 2013
    Printed Book
  4. 4
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 1970
    Printed Book
  5. 5
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 1969
    Printed Book
  6. 6
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 2004
    Printed Book
  7. 7
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 2003
    Printed Book
  8. 8
    gan Greene, robert
    Cyhoeddwyd 2006
    Printed Book
  9. 9
  10. 10
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 1923
  11. 11
  12. 12
  13. 13
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 1970
  14. 14
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 1999
    Printed Book
  15. 15
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 2006
    Printed Book
  16. 16
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 2013
  17. 17
    gan Greene, robert
    Cyhoeddwyd 2002
    Printed Book
  18. 18
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 2013
    Printed Book
  19. 19
    gan Greene, Robert
    Cyhoeddwyd 2008
    Printed Book
  20. 20
    gan Greene, Robert .
    Cyhoeddwyd 2003
    Printed Book