Patrick Geddes

Biolegydd, cymdeithasegydd, a chylluniwr trefol o'r Alban oedd Syr Patrick Geddes (2 Hydref 185417 Ebrill 1932).

Ganed yn Ballater, Swydd Aberdeen, ac astudiodd fioleg yn Llundain dan Thomas Henry Huxley. Bu'n athro sŵoleg ym Mhrifysgol Caeredin o 1880 i 1888, ac yn athro botaneg yng Ngholeg Prifysgol Dundee o 1888 i 1919. Yn Dundee, cyd-ysgrifennodd y gyfrol ''The Evolution of Sex'' (1889) gyda'r naturiaethwr John Arthur Thomson. Roedd ganddo ystod eang o ddiddordebau, a datblygodd athroniaeth ei hun o gynllunio trefol, a geir yn ei lyfrau ''City Development'' (1904) a ''Cities in Evolution'' (1915). Geddes a wnaeth fathu'r termau ''conurbation'' (cytref) ac "yr ail chwyldro diwydiannol" wrth gyfeirio at ddatblygiadau mewn trydan a chemegion.

Ym Mandad Palesteina fe ddyluniodd adeilad Prifysgol Hebraeg Jeriwsalem (1919) a chynlluniodd ddinas Tel Aviv. Ar daith i Fecsico, dioddefodd Geddes o bwl o ddallineb, a phenderfynodd felly i ganolbwyntio ar gymdeithaseg gan nad oedd modd iddo gynnal ei arbrofion biolegol. Aeth i'r India a bu'n athro astudiaethau dinesig a chymdeithaseg yn Bombay o 1920 i 1923. Symudodd o'r India i Ffrainc a chyfarwyddodd y Coleg Sgotaidd ym Montpellier. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1932, a bu farw y flwyddyn honno ym Montpellier yn 77 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Geddes, Patrick', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
    gan Geddes, Patrick; Author
    Cyhoeddwyd 2000
    Printed Book