John Kenneth Galbraith

Economegydd o Ganada a dreuliodd ei yrfa yn academydd a swyddog llywodraethol yn Unol Daleithiau America oedd John Kenneth Galbraith OC (15 Hydref 1908 – 29 Ebrill 2006) neu Ken Galbraith. Roedd yn awdur toreithiog, yn ddeallusyn adnabyddus ac yn rhyddfrydwr pybyr. O ran ei economeg, fe arddelai ôl-Keynesiaeth o safbwynt sefydliadol a dadleuodd o blaid mwy o wariant cyhoeddus.

Ganwyd yn Iona Station, pentrefan yn Ontario, a chafodd ei fagu ar fferm. Astudiodd gyrsiau amaeth yng Ngholeg Amaethyddol Ontario (Prifysgol Toronto) cyn iddo ennill ei radd meistr a'i ddoethuriaeth ar bwnc economeg amaethyddol o Brifysgol Califfornia, Berkeley. Addysgodd fyfyrwyr fel tiwtor ym Mhrifysgol Harvard (1934–39) a dirprwy athro yn Princeton (1939–42). Daeth yn ddinesydd Americanaidd yn 1937, ond cafodd ei wrthod o'r fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd am iddo fod yn rhy dal. Bu'n olygydd y cylchgrawn ''Fortune'' o 1943 i 1948 cyn iddo ddychwelyd i Harvard i gymryd swydd athro economeg am weddill ei yrfa academaidd. Cafodd ei benodi'n athro emeritws yno yn 1975.

Gwasanaethodd yng ngweinyddiaethau Democrataidd yr Arlywyddion Roosevelt, Truman, Kennedy, a Johnson. Roedd yn llysgennad UDA i India o 1961 i 1963, ac yn un o gynllunwyr rhaglen les "y Gymdeithas Fawr". Ymhlith ei lyfrau mae ''American Capitalism'' (1952), ''The Great Crash, 1929'' (1955), ''The Affluent Society'' (1958), a ''The New Industrial State'' (1967), a ''The Anatomy of Power'' (1983). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 115 ar gyfer chwilio 'Galbraith, John Kenneth', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1983
    Printed Book
  2. 2
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1990
    Printed Book
  3. 3
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1975
    Printed Book
  4. 4
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1962
    Printed Book
  5. 5
    Printed Book
  6. 6
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1969
    Printed Book
  7. 7
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1970
    Printed Book
  8. 8
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1974
    Printed Book
  9. 9
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1974
    Printed Book
  10. 10
    Printed Book
  11. 11
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1972
    Printed Book
  12. 12
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1971
    Printed Book
  13. 13
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1981
    Printed Book
  14. 14
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1963
    Printed Book
  15. 15
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1967
    Printed Book
  16. 16
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1970
    Printed Book
  17. 17
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1973
    Printed Book
  18. 18
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1987
    Printed Book
  19. 19
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1969
    Printed Book
  20. 20
    gan Galbraith, John Kenneth
    Cyhoeddwyd 1991
    Printed Book