Benjamin Franklin

bawd|Franklin, 1825

Roedd Benjamin Franklin (17 Ionawr 1706 (H.A. 6 Ionawr) 170517 Ebrill 1790) yn un o sefydlwyr Unol Daleithiau'r America. Roedd yn bolymath cydnabyddedig, ac yn argraffwr ac awdur blaenllaw, yn ogystal â bod yn ddychanwr, sylwebydd gwleidyddol, gwleidydd, gwyddonydd, dyfeisiwr a diplomat. Fel gwyddonydd, roedd yn ffigwr blaenllaw yn hanes ffiseg am ei ddarganfyddiadau a damcaniaethau ynglŷn â thrydan. Dyfeisiodd rhoden luched, deuffocal, y stof Franklin a'r gwydr 'armonica'. Ef sefydlodd y llyfrgell fenthyg gyntaf yn yr Unol Daleithiau a'r gwasanaeth tân cyntaf Pennsylvania. Roedd yn un o genfogwyr cynharaf undod ymerodraethol, ac fel sylwebydd ac ymgyrchydd gwleidyddol, cefnogodd y syniad o'r genedl Americanaidd. Fel diplomat yn ystod y Chwyldro Americanaidd, sicrhaodd gefnogaeth Ffrainc a chynorthwyodd yn y broses o wneud yr Unol Daleithiau'n annibynnol.

Ystyrir Franklin fel un o brif sylfaenwyr y gwerthoedd craidd a'r cymeriad sydd gan yr Unol Daleithiau heddiw. Roedd ganddo werthoedd Piwritanaidd o waith caled, addysg, naws gymdeithasol, sefydliadau hunan-lywodraethol a'i wrthwynebiad i awdurdodaeth gwleidyddol a chrefyddol am y credai mai gwyddoniaeth ac agweddau goddefol oedd y ffordd i hapusrwydd. Yng ngeiriau Henry Steele Commager, "Yng nghymeriad Franklin, daeth gwerthoedd Piwritanaidd heb y gwendidau i'r amlwg, y Goleudigaeth heb ei wrês." I Walter Isaacson, golygai hyn mai Franklin oedd, "yr Americanwr mwyaf medrus o'i gyfnod a'r mwyaf dylanwadol o ran llunio'r math o gymdeithas y byddai America yn datblygu i fod."

Daeth Franklin yn olygydd papur newydd, argraffwr a masnachwr yn Philadelphia. Gwnaeth lawer iawn o arian drwy ysgrifennu a chyhoeddu ''Almanac Richard Dlawd'' a'r ''Pennsylvania Gazette''. Ymddiddorai Franklin mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, a chafodd gyhoeddusrwydd rhyngwladol am ei arbrofion enwog. Chwaraeodd rôl flaenllaw yn sefydlu Prifysgol Pennsylvania a Choleg Franklin & Marshall College a chaoff ei ethol yn lywydd cyntaf y Gymdeithas Athronyddol Americanaidd. Ystyriwyd Franklin yn arwr cenedlaethol pan arweiniodd ymgyrch i'r Senedd er mwyn gwaredu'r Ddeddf Stamp amhoblogaidd. Fel diplomat dawnus, cawsai ei edmygu gan y Ffrancwyr pan oedd yn weinidog Americanaidd i Baris ac roedd yn ffigwr amlwg yn natblygiad perthynas Ffrainc a'r Unol Daleithiau. O 1775 tan 1776, Franklin oedd y Postfeistr Cyffredinol o dan y Gynghrair Cyfandirol ac o 1785 tan 1788 ef oedd Llywydd Uwch Gyngor arbennig Pennsylvania. Tua diwedd ei fywyd, daeth yn ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn caethwasiaeth.

Yn sgîl ei fywyd lliwgar, ei gasgliadau gwyddonol a'i gyrhaeddiadau gwleidyddol, yn ogystal â'i statws fel un o sefydlwyr mwyaf dylanwadol yr Unol Daleithiau, anrhydeddir Franklin ar arian yr Unol Daleithiau, llongau rhyfel, fel enw nifer o drefi, siroedd, sefydliadau addysgol a chwmnïau. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 23 ar gyfer chwilio 'Franklin, Benjamin', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Printed Book
  2. 2
    Printed Book
  3. 3
    Printed Book
  4. 4
    gan Franklin, Benjamin
    Cyhoeddwyd 1923
    Printed Book
  5. 5
    Printed Book
  6. 6
    gan Franklin Benjamin
    Cyhoeddwyd 2008
    Printed Book
  7. 7
    gan Franklin, Benjamin
    Cyhoeddwyd 1948
    Printed Book
  8. 8
    gan Franklin, Benjamin
    Cyhoeddwyd 2008
    Printed Book
  9. 9
    gan Franklin, Benjamin
    Cyhoeddwyd 1938
  10. 10
    gan Franklin, Benjamin
    Cyhoeddwyd 1959
  11. 11
    gan Franklin, Benjamin
    Cyhoeddwyd 1955
  12. 12
    gan Franklin, Benjamin
    Cyhoeddwyd 1967
    Printed Book
  13. 13
    gan Franklin, Benjamin
    Cyhoeddwyd 1964
  14. 14
    gan Franklin, Benjamin
    Cyhoeddwyd 2011
  15. 15
    gan Franklin, Benjamin
    Cyhoeddwyd 1923
  16. 16
    Printed Book
  17. 17
    gan Franklin,Benjamin
    Cyhoeddwyd 2008
    Printed Book
  18. 18
    gan Franklin, Benjamin .
    Cyhoeddwyd 1958
    Printed Book
  19. 19
    Printed Book
  20. 20
    gan Franklin, Benjamin, 1706-1790
    Cyhoeddwyd 2004
    Publisher description
    Sample text
    Printed Book