Fatema Mernissi

Cymdeithasegydd ac awdures ffeministaidd Forocaidd oedd Fatema Mernissi (27 Medi 194030 Tachwedd 2015). Cymerodd ran bwysig yn y ddadl ynghylch moderneiddio cymdeithasau Islamaidd.

Fe'i genwyd yn Fès, Moroco, a magwyd yn harîm ei mam-gu o ochr ei thad. Derbyniodd ei haddysg gynradd mewn ysgol a sefydlwyd gan y mudiad cenedlaetholgar, a'i haddysg uwchradd mewn ysgol i ferched a ariannwyd gan y brotectoriaeth Ffrengig a reolodd y wlad o 1912 i 1956. Wedyn astudiodd ym Mhrifysgol Mohammed V yn Rabat, Prifysgol Paris yn Ffrainc, a Phrifysgol Brandeis yn yr Unol Daleithiau, lle enillodd ei doethuriaeth ym 1974. Dychwelodd i Brifysgol Mohammed V a darlithiodd yn y Faculté des Lettres rhwng 1974 a 1981 ar bynciau cymdeithasegol.

Astudiodd ac ysgrifennodd am y ffordd mae menywod Mwslimaidd yn byw ac yn gweld y byd. Rhannodd ei gwybodaeth ar ffurf erthyglau ysgolheigaidd a nofelau. Daeth yn fodel rôl ar gyfer y cenedlaethau iau. Ar ôl ei chyfnod astudio yn y Gorllewin, roedd yn gallu tynnu cymariaethau ac i weld y ddau ddiwylliant yn feirniadol. Dadleuodd fod yn rhaid i fenywod chwarae rhan lawn yn y maes cyhoeddus. Roedd hi'r prif ysgogydd y tu ôl i'r Caravane Civique, rhwydwaith mawr o artistiaid, deallusion a gweithredwyr.

Daeth ei monograff cyntaf, ''Beyond the Veil: Male-Female Dynamics in a Muslim Society'' (1975), yn glasur, ond ei gwaith mwyaf adnabyddus yw ''Le Harem politique: Le Prophète et les femmes'' (1987; cyfieithiad Saesneg: ''The Veil and the Male Elite'', 1991), sy'n astudiaeth o wragedd y Proffwyd Muhammad.

Enillodd Wobr Tywysoges Asturias yn 2003 (gyda Susan Sontag), a'r Wobr Erasmus yn 2004 (gyda Sadiq Jalal Al-Azm a Abdolkarim Soroush). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 7 canlyniadau o 7 ar gyfer chwilio 'Fatema Mernissi', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    eLyfr
  2. 2
    gan Fatema Mernissi
    Cyhoeddwyd 2009
    Printed Book
  3. 3
    gan Fatema Mernissi
    Cyhoeddwyd 2015
    Printed Book
  4. 4
    gan Fatema Mernissi
    Cyhoeddwyd 2014
    Printed Book
  5. 5
  6. 6
    Printed Book
  7. 7
    Awduron Eraill: ...Fatema Mernissi...
    Printed Book