Erwin Schrödinger

bawd|Penddelw Erwin Schrödinger gan Ferdinand Welz (1915–2008) y tu allan i'r prif adeilad Prifysgol Fienna

Ffisegydd o Awstria, a ddaeth yn ddiweddarach yn ddinesydd o Iwerddon, oedd Erwin Rudolf Josef Alexander Schrödinger (12 Awst 18874 Ionawr 1961). Daeth yn enwog oherwydd ei gyfraniadau i fecaneg cwantwm, yn enwedig Hafaliad Schrödinger. Dyfarwnwyd Gwobr Ffiseg Nobel iddo yn 1933.

Ganed Schrödinger yn Fienna, ac addysgwyd ef yno dan Franz S. Exner a Friedrich Hasenöhrl. Daeth yn gynorthwydd i Exner yn 1911. Yn 1920, priododd Annemarie Bertel a daeth yn gynorthwydd i Max Wien ym Mhrifysgol Jena, cyn dod yn Athro ychwanegol (''Ausserordentlicher Professor'') yn Stuttgart. Yn 1921, daeth yn Athro llawn yn Breslau (Wrocław, Gwlad Pwyl, yn awr). Yn 1922 aeth i Brifysgol Zürich.

Yn Ionawr 1926, cyhoeddodd ei bapur ''Quantisierung als Eigenwertproblem'', a ystyrir yn un o gyfraniadau pwysicaf yr 20g i'r pwnc. Yn 1927, olynodd Max Planck ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, ond yn 1933 gadawodd yr Almaen i osgoi'r Natsïaid. Yn 1936 cafodd swydd ym Mhrifysgol Graz yn Awstria.

Wedi i'r Almaen feddiannu Awstria yn 1938, collodd ei swydd, a bu'n gweithio mewn nifer o wledydd cyn cael swydd yn Nulyn, lle bu am 17 mlynedd a dod yn ddinesydd Gwyddelig. Dychwelodd i Fienna yn 1956, gan gael cadair bersonol ym Mhrifysgol Fienna. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 5 canlyniadau o 5 ar gyfer chwilio 'Erwin Schrödinger', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Erwin Schrödinger
    Cyhoeddwyd 1992
    Printed Book
  2. 2
    gan Erwin Schrodinger
    Cyhoeddwyd 1969
    Printed Book
  3. 3
    gan Erwin Schrodinger
    Cyhoeddwyd 1996
    Printed Book
  4. 4
    gan Erwin Schrodinger
    Cyhoeddwyd 1992
    Printed Book
  5. 5
    gan Erwin Schrodinger
    Cyhoeddwyd 1998
    Printed Book