Olaudah Equiano

Affricanwr a gafodd ei werthu'n gaethwas ac yn hwyrach ei ryddhau oedd Olaudah Equiano (tua 174531 Mawrth 1797). Ysgrifennodd gofiant, ''The Interesting Narrative of the Life of Olaudah Equiano; or, Gustavus Vassa, the African, Written by Himself'' (1789), oedd yn ddylanwadol yn y mudiad diddymiaeth i wahardd y fasnach gaethweision.

Ansicr yw ei fan geni. Honnodd Equiano iddo gael ei eni yn nhref o'r enw Essaka yng Ngorllewin Affrica, sydd o bosib yn Isseke yn Nigeria. Yn ei lyfr mae'n disgrifio cael ei gipio pan oedd yn 11 oed - i India'r Gorllewin ac yna Virginia. Mae rhai ysgolheigion modern yn credu iddo gael ei eni yng Ngogledd America. Treuliodd flynyddoedd olaf ei oes yn Stryd Paddington, Middlesex, ble y bu farw.

Ym mis Tachwedd 1996 sefydlwyd Cymdeithas Equiano yn Llundain gyda'r nod o hyrwyddo gwybodaeth amdano ac am ei waith. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Equiano, Olaudah', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
    gan Edwards, Paul; Ed, Equiano, Olaudah
    Cyhoeddwyd 1969
    Printed Book