Barbara Ehrenreich

Awdur a newyddiadurwraig o'r Unol Daleithiau oedd Barbara Ehrenreich (ganwyd Barbara Alexander, 26 Awst 19411 Medi 2022).

Ganed Barbara Alexander yn Butte, Montana, i deulu dosbarth gweithiol. Derbyniodd ei gradd baglor o Goleg Reed yn Portland, Oregon, ym 1963 a'i doethuriaeth mewn bioleg cell o Brifysgol Rockefeller yn Efrog Newydd ym 1968. Gweithiodd yn ddadansoddwr cyllideb, yn aelod o'r Ganolfan Cynghori Polisi Iechyd, ac yn isddarlithydd i Raglen y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Daleithiol Efrog Newydd yn Old Westbury. Ymddiswyddodd o'r byd academaidd ym 1974 i fod yn awdur llawn amser.

Thema sy'n rhedeg trwy ei hysgrifiadau yw mai chwedl ddifrifol yw'r freuddwyd Americanaidd. Mae pynciau nodweddiadol ei hysgrifau a'i llyfrau yn cynnwys y farchnad lafur, gofal iechyd, tlodi, a sefyllfa menywod.

Enillodd Wobr Erasmus yn 2018. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Ehrenreich, Barbara', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Ehrenreich, Barbara
    Cyhoeddwyd 2014
    Printed Book
  2. 2
    Cyhoeddwyd 2003
    Awduron Eraill: ...Ehrenreich, Barbara...
    Printed Book