Edward Snowden

Cyn-gontractwr technegol i'r ''National Security Agency'' (NSA), sef un o adrannau diogelwch Unol Daleithiau America, yw Edward Joseph Snowden (ganwyd 21 Mehefin 1983). Gweithiodd hefyd i'r ''Central Intelligence Agency'' (CIA). Yng ngwanwyn 2013 rhyddhaodd wybodaeth am rai o brif raglenni ysbïo drwy wyliadwriaeth dorfol yr Unol Daleithiau a Phrydain i'r wasg.

Rhyddhaod yr wybodaeth yn wreiddiol i Glenn Greenwald o ''The Guardian'' yn Llundain, a hynny yng ngwanwyn 2013 tra roedd yn gweithio fel "infrastructure analyst" yng ngwmni Booz Allen Hamilton a oedd dan gontract i NSA. Yn ei dro, cyhoeddodd ''The Guardian'' sawl ''exposé'' rhwng Mehefin a Gorffennaf 2013 a oedd yn dinoethi rhaglenni megis PRISM, a oedd yn clustfeinio ac yn recordio gwybodaeth ddigidol ar systemau ffôn a Tempora sef cynllun gwylio a chofnodi gwybodaeth ar y we. Dywedodd Snowden fod rhyddhau'r wybodaeth fel hyn yn ymgais i "hysbysu'r cyhoedd o'r hyn sy'n digwydd yn eu henw nhw a'r hyn sy'n digwydd yn eu herbyn. Dywedir fod y weithred hon o ryddhau gwybodaeth y mwyaf arwyddocaol o'i bath yn hanes yr NSA.

Ar 4 Mehefin 2013, cafodd ei gyhuddo gan yr erlyniad ffederal o ''espionage'' a lladrata eiddo'r llywodraeth. Ar 8 Gorffennaf 2013, cafodd ei anrhydeddu gan grŵp o gyn-swyddogion y CIA gyda Gwobr Sam Adams. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Edward Snowden', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Edward Snowden
    Cyhoeddwyd 2019
  2. 2
    gan Edward Snowden
    Cyhoeddwyd 2019
    Printed Book