Maurice Edelman

Gwleidydd, newyddiadurwr a nofelydd o Gymru oedd Israel Maurice Edelman (2 Mawrth 191114 Rhagfyr 1975). Roedd yn aelod o'r Blaid Lafur a gynrychiolodd etholaethau Coventry yn San Steffan am dros 30 mlynedd, o 1945 hyd at ei farwolaeth.

Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd yn 1911 i deulu Iddewig. Roedd ei rieni wedi dod i Gymru saith mlynedd ynghynt, gan ddianc rhag y pogromau yn Rwsia Tsaraidd. Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt, lle astudiodd Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg. Ymunodd â'r diwydiant pren haenog ym 1931 fel cyfarwyddwr cwmni ac ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd roedd yn ymwneud ag ymchwil i gymhwyso deunyddiau pren haenog a phlastig i adeiladu awyrennau.

Roedd Edelman yn newyddiadurwr toreithiog. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yn ohebydd i ''Picture Post''.

Yn etholiad 1945 fe'i hetholwyd yn Aelod Seneddol dros Orllewin Coventry. Ym 1950 enillodd sedd newydd Gogledd Coventry. Yn dilyn newidiadau pellach i'r ffiniau ym 1974, cynrychiolodd Ogledd-orllewin Coventry hyd at ei farwolaeth.

Ysgrifennodd nifer o weithiau ffeithiol a sawl nofel, y mwyfrif ohonynt sydd â chefndir seneddol. Ysgrifennodd hefyd ddramâu ar gyfer teledu. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6 ar gyfer chwilio 'Edelman, Maurice_', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Printed Book
  2. 2
    gan Edelman, Maurice
    Cyhoeddwyd 1963
  3. 3
    gan Edelman, Maurice
    Cyhoeddwyd 1964
  4. 4
    gan Edelman, Maurice_
    Cyhoeddwyd 1969
  5. 5
    gan Edelman, Maurice .
    Cyhoeddwyd 1964
    Printed Book
  6. 6
    Printed Book