Sylvia Day

| dateformat = dmy}}

Awdur Americanaidd - Japaneaidd yw Sylvia Mehefin Day (ganwyd 11 Mawrth 1973) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd storiau rhamant a blogiwr. Yn 2019 roedd yn un o'r gwerthwyr gorau (''bestsellers'') mewn dros 28 gwlad. Defnyddia'r ffugenwau-awdur S.J. Day a Livia Dare.

Fe'i ganed yn Los Angeles ar 11 Mawrth 1973. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Adran Iaith a Sefydliad Amddiffyn (UDA).

Mae'n sgwennu nofelau rhamantus, ffuglen ar hap / paranormal, ffuglen hanesyddol, a ffuglen wyddonias (o dan y ffugenw Livia Dare). Mae hi hefyd wedi cyhoeddi ffuglen a gwaith ffeithiol o dan y ffugenw S. J. Day. yn aml, mae'n cyflwyno gweithdai ar gyfer grwpiau ysgrifennu ac mae wedi bod yn siaradwr gwâdd mewn digwyddiadau fel ''RT Booklovers Convention'', Confensiwn Cenedlaethol Rhamantwyr America, a Comic-Con.

;Rhai cerrig milltir * Ym Mawrth 2013, cyhoeddodd Harlequin Enterprises a Hearst Corporation iddynt arwyddo cytundeb gyda Day gwerth saith-ffigur (h.y. dros filiwn o ddoleri) i ysgrifennu dwy nofel i lansio ''"Cosmo Red Hot Reads o Harlequin,"''.

* Ym Mehefin 2013, cytunodd Penguin USA ar gytundeb wyth ffigur ar gyfer dau lyfr erotig "Crossfire" arall, gyda Penguin UK yn cadw hawliau'r DU ar gyfer saith ffigur ychwanegol.

* Yn Ionawr 2014, cyhoeddodd St Martin's Press (rhan o Macmillan) gytundeb dau-lyfr, am swm o wyth ffigur ar gyfer cyfres "Blacklist" newydd. Cafodd Penguin UK hawliau'r DU a'r Gymanwlad i'r gyfres am saith ffigur ychwanegol. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Day, Sylvia', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Day, Sylvia
    Cyhoeddwyd 2011
    Printed Book
  2. 2
    gan Day, Sylvia
    Cyhoeddwyd 2012
    Printed Book
  3. 3
    gan Day Sylvia
    Cyhoeddwyd 2014
    Printed Book
  4. 4
    gan Day, Sylvia
    Cyhoeddwyd 2009
    Printed Book