Richard Dawkins

Etholegydd, biolegydd esblygiadol a llenor gwyddoniaeth boblogaidd o Loegr yw Clinton Richard Dawkins, FRS, FRSL (ganwyd 26 Mawrth 1941 yn Nairobi, Cenia). Ef oedd enillydd cyntaf Cadair Charles Simonyi am Ddealltwriaeth Wyddonol y Cyhoedd ym Mhrifysgol Rhydychen, mae hefyd yn gymrawd athrawol o Goleg Newydd, Rhydychen.

Daeth Dawkins yn amlwg gyda chyhoeddiad ei lyfr ''The Selfish Gene'' ym 1976, gwaith a boblogeiddiodd y safbwynt genyn-ganolog o esblygiad a chyflwynodd y term ''meme''. Ym 1982, gwnaeth cyfraniad blaenllaw i fioleg esblygiadol gyda'r theori, a gyflwynwyd yn ei lyfr ''The Extended Phenotype'', nad yw effeithiau ffenoteipol yn gyfyngedig i gorff organeb, ond gallent ymestyn yn bell i'r amgylchedd, yn cynnwys cyrff organebau eraill.

Yn ogystal â'i waith biolegol, adnabyddir Dawkins am ei farnau ar anffyddiaeth, esblygiad, creadaeth, damcaniaeth y cynllun deallus, a chrefydd; beirniad amlwg o greadaeth a'r cynllun deallus ydyw. Yn ei lyfr 1986 ''The Blind Watchmaker'', dadleuodd yn erbyn cyfatebiaeth yr oriadurwr, dadl dros fodolaeth creawdwr goruwchnaturiol sy'n seiliedig ar gymhlethdod organebau byw, ac yn lle'r cysyniad hwn disgrifiodd brosesau esblygiadol yn gyfatebol i oriadurwr ''dall''. Ers hynny mae Dawkins wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gwyddonol poblogaidd, ac wedi ymddangos yn rheolaidd ar raglenni teledu a radio, gan amlaf yn trafod y pynciau a nodir uchod.

Mae Dawkins yn anffyddiwr, rhydd-feddyliwr, dyneiddiwr seciwlar, sgeptig, rhesymolwr gwyddonol, a chefnogwr i'r mudiad Brights. Fe'i disgrifiwyd weithiau yn y cyfryngau fel "Rottweiler Darwin", yn gyfatebol i'r biolegydd o Sais T. H. Huxley, a adnabyddir fel "Bulldog Darwin" am ei gefnogaeth i ddetholiad naturiol. Yn ei lyfr 2006 ''The God Delusion'', dadleuodd Dawkins ei bod bron yn sicr nad yw creawdwr goruwchnaturiol yn bodoli ac felly mae ffydd grefyddol yn cyfrif fel rhithdyb. Llyfr mwyaf poblogaidd Dawkins yw ''The God Delusion''; mae'r fersiwn Saesneg wedi gwerthu dros 1.5 miliwn o gopïau ac wedi'i gyfieithu i 31 o ieithoedd eraill. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 75 ar gyfer chwilio 'Dawkins, Richard', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 1976
    Printed Book
  2. 2
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 2010
    Printed Book
  3. 3
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 1996
    Printed Book
  4. 4
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 2006
    Printed Book
  5. 5
    gan Dawkins,Richard
    Cyhoeddwyd 2005
    Printed Book
  6. 6
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 2015
    Printed Book
  7. 7
  8. 8
    Printed Book
  9. 9
    gan Dawkins,Richard
    Cyhoeddwyd 2011
    Printed Book
  10. 10
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 1989
    Cael y testun llawn
    Cael y testun llawn
    Cael y testun llawn
    Printed Book
  11. 11
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 2009
    Printed Book
  12. 12
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 1995
    Printed Book
  13. 13
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 2005
    Printed Book
  14. 14
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 2012
    Printed Book
  15. 15
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 2006
    Printed Book
  16. 16
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 1997
    Printed Book
  17. 17
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 1998
    Printed Book
  18. 18
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 2005
    Printed Book
  19. 19
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 2007
    Printed Book
  20. 20
    gan Dawkins, Richard
    Cyhoeddwyd 2006
    Printed Book