Dandin

Llenor a gramadegydd barddoniaeth yn yr iaith Sansgrit o India oedd Dandin (fl. tua 700). Credir ei fod yn frodor o Dde India ond ar wahân i hynny ni wyddys dim amdano.

Mae'n awdur dau waith pwysig yn hanes llenyddiaeth Sansgrit. Un o'r rhain yw'r ''Kavyadarsha'' ('Y Drych Barddonol', cyfansoddair o'r geiriau Sansgrit ''kavya'' 'barddoniaeth' ac ''adarsha'' 'drych'), sy'n gyfraniad pwysig i ddamcaniaethau barddol Sansgrit, tebyg i ramadegau'r beirdd yng Nghymru'r Oesoedd Canol.

Mae ei ail lyfr yn ''gadya'' (rhamant) dan y teitl ''Dasa-kumara-charita'' ('Anturiaethau'r Deg Tywysog'). Ystyrir hyn yn gampwaith am ei ddefnydd o'r iaith Sansgrit i greu rhyddiaith goeth, osgeiddig. Ond bernir y llyfr gan rai am ei gynnwys. Mae'n fath o nofel hir estynedig gyda nifer o is-benodau sy'n cynnwys nifer o chwedlau llên gwerin a straeon am hud a lledrith ac anturiaethau rhyfeddol. Mae'n dilyn anturiaethau deg tywysog Indiaidd ac mae'n ddrych i gymdeithas y llys yn yr hen India. Ceir nifer o ddarluniau o anturiaethau carwriaethol sy'n gadael dim byd i'r dychymyg gyda disgrifiadau manwl o garu yn ei holl amrywiaeth. I gyfleu hyn mae'r awdur yn defnyddio llu o fwyseiriau rhywiol ac iaith liwgar ac awgrymiadol. Nid yw hynny'n beth mor anghyffredin â hynny yn llenyddiaeth India, ond yr hyn sydd wedi ennyn beirniadaeth yw'r diffyg llwyr o unrhyw synnwyr moesol yn y gwaith. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 25 ar gyfer chwilio 'Dandin', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 1924
  2. 2
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 1938
  3. 3
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 2008
  4. 4
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 1966
  5. 5
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 1972
  6. 6
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 2004
    Printed Book
  7. 7
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 1984
    Printed Book
  8. 8
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 1970
    Printed Book
  9. 9
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 2009
    Printed Book
  10. 10
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 2009
    Printed Book
  11. 11
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 2009
    Printed Book
  12. 12
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 2009
    Printed Book
  13. 13
    gan Dandin
    Cyhoeddwyd 2017
    Printed Book
  14. 14
    gan Dandin
  15. 15
    gan Dandin
  16. 16
    gan ACARYA DANDIN
    Cyhoeddwyd 1954
    Printed Book
  17. 17
    gan ACARYA DANDIN
    Cyhoeddwyd 1954
    Printed Book
  18. 18
    gan ACARYA DANDIN
    Cyhoeddwyd 1954
    Printed Book
  19. 19
    gan ACARYA DANDIN
    Cyhoeddwyd 1954
    Printed Book
  20. 20
    gan Dandin, S.B
    Cyhoeddwyd 1989
    Printed Book