Brahmagupta

Seryddwr a mathemategydd o India oedd Brahmagupta (598-670). Fe ystyriodd nifer o syniadau, sydd wedi eu derbyn fel rhan o fathemateg bellach. Ei brif gyflawniad ym maes mathemateg oedd cysyniad sero a rhifau negatif. Yn ei gampwaith ''Brahmasphutasiddhanta'' (628) (gellir cyfieithu'r teitl fel ''Dadorchuddio'r bydysawd''), mae'n diffinio sero fel y canlyniad a geir pan mae rhif yn cael ei dynnu o'i hun - dyna oedd y diffiniad gorau o sero oedd i'w gael yn y dyddiau hynny. Mae'r ''Brahmasphutasiddhanta'' hefyd yn cynnwys yr enghraifft gyntaf a wyddys amdani o nod sero. Darparodd Brahmagupta reolau hefyd ar gyfer trin "cyfoeth" a "dyled" - sy'n cyfateb i rifau positif a negatif (ystyrir mai dyma'r defnydd hysbys cyntaf o rifau negatif). Roedd ''Dadorchuddio'r Bydysawd'' hefyd yn cynnwys algorithm ar gyfer cyfrifo ail isradd, dull ar gyfer datrys hafaliadau cwadratig, a ffurf seml ar nodiant algebraidd. Mae'r penodau eraill yn trin seryddiaeth - diffyg ar yr haul a diffyg ar y lleuad, cysylltiadau'r planedau, gweddau'r lleuad, a phenderfynu safle'r planedau. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Brahmagupta', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Brahmagupta
    Cyhoeddwyd 2005
    Awduron Eraill: ...Brahmagupta...
    Printed Book