Balarama
200px|bawd|BalaramaDuw Hindwaidd yw Balarama (बलराम, ''Balarāma''), sy'n frawd hŷn y duw Krishna ac a adnabyddir hefyd fel Baladeva, Baldau, Balabhadra a Halayudha. O fewn Vaishnaviaeth a thraddodiadau o Dde India, addolir Balarama fel un o ''avatars'' (rhithiadau) y duw Vishnu, a chyfeirir ato felly yn y ''Bhagavata Purana'', un o destunau sanctaidd Hindŵaeth. Cydnabyddir gan mwyafrif yr Hindŵaid ei fod hefyd yn rhith ar Shesha, y sarff gosmig y mae Vishnu yn gorffwys arni.
I ddilynwyr Vishnu, Krishna yw'r Duwdod Goruchaf y mae popeth yn tarddu ohono. Balarama yw rhithiad (''avatar'') cyntaf y Duwdod hwnnw, ac ohono mae pob ''avatar'' arall yn dod i fodoli. Yn athroniaeth y ''sat-chit-ananda'', mae Balarama yn cynrychioli ''sat'' (tragwyddoldeb) a ''chit'' (gwybodaeth, deall), ac felly'n cael ei addoli fel 'yr athro mawr' (''Adiguru'').
Mae'n gymeriad yn y ''Mahabharata'', epig genedlaethol India. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10Cyhoeddwyd 1934Awduron Eraill: “...BALADEVA UPADHYAYA...”
Printed Book -
11
-
12
-
13
-
14