Amish

200px|bawd|Teulu Amish yn teithio mewn cert draddodiadol yn Lancaster County, Pennsylvania. Grŵp o gymdeithasau eglwysig Cristnogol sy'n ffurfio is-grŵp o eglwysi'r Mennoniaid yw'r Amish (Almaeneg Pennsylfania: ''Amisch'', Almaeneg y Swistir: ''Amische'', Saesneg: ''Amish''). Adnabyddir yr Amish am eu dull o fyw syml, eu dillad blaen, eu cymunedau amaethyddol a theuluol, a'u hamharodrwydd i fabwysiadu nifer o gyfleusterau technoleg fodern. Maent yn byw yn bennaf yn Lancaster County, Pennsylvania, a Holmes County, Ohio, yn Unol Daleithiau America.

Tarddai'r Amish o sgism rhwng y Mennoniaid yn y Swistir, Alsás, a de'r Almaen ym 1693–97. Ymochrai cyndeidiau'r Amish â Jakob Ammann (1644–tua 1730), sydd yn rhoi ei enw i'r sect. Dechreuasant ymfudo i Ogledd America yn nechrau'r 18g, yn gyntaf i ddwyrain Pennsylvania. Ymfudodd yr Amish i'r Unol Daleithiau trwy gydol y 19g a'r 20g, a diflannodd eu cymunedau yn Ewrop.

Yn ystod ail hanner y 19g, bu rhwyg rhwng Amish "y drefn newydd", a dderbyniasant newidiadau cymdeithasol a thechnoleg newydd, a'r "hen drefn" a chadwasant at eu traddodiadau. Erbyn dechrau'r 20g, bu 2/3 ohonynt naill ai wedi ffurfio eglwysi bychain, ar wahân i'r hen drefn, neu wedi ymuno â'r Eglwys Fennonaidd neu Eglwys Fennonaidd y Gynhadledd Gyffredinol. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 143 ar gyfer chwilio 'Amish', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2013
    Printed Book
  2. 2
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2011
    Printed Book
  3. 3
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2015
    Printed Book
  4. 4
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2016
    Printed Book
  5. 5
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2010
    Printed Book
  6. 6
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2014
    Printed Book
  7. 7
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2011
    Printed Book
  8. 8
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2013
    Printed Book
  9. 9
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2013
    Printed Book
  10. 10
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2010
    Printed Book
  11. 11
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2012
    Printed Book
  12. 12
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2014
    Printed Book
  13. 13
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2015
    Printed Book
  14. 14
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2015
    Printed Book
  15. 15
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2014
    Printed Book
  16. 16
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2016
    Printed Book
  17. 17
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2017
    Printed Book
  18. 18
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2018
    Printed Book
  19. 19
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2014
    Printed Book
  20. 20
    gan Amish
    Cyhoeddwyd 2019
    Printed Book