Alfred Austin
Bardd o Loegr yn yr iaith Saesneg oedd Alfred Austin (30 Mai 1835 – 2 Mehefin 1913).Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog ym 1896, yn dilyn marwolaeth Alfred, Arglwydd Tennyson. Fe'i dilynwyd gan Robert Bridges ar ôl ei farwolaeth ei hun. Pan fu farw Tennyson ym 1892 teimlwyd nad oedd yr un o’r beirdd byw ar y pryd, ac eithrio Algernon Charles Swinburne neu William Morris, o fri digonol i lwyddo i’r swydd, ac roedd y ddau fardd olaf yn anaddas ar seiliau eraill, felly am sawl blwyddyn na enwebwyd Bardd Llawryfog newydd. Yn y pen draw, penodwyd Austin i'r swydd ar ôl i Morris ei gwrthod. Honnwyd iddo gael y swydd oherwydd ei ogwydd gwleidyddol a'i gyfeillgarwch â Phrif Weinidog Arglwydd Salisbury. Fel bardd ni enillodd Austin erioed safle uchel ym marn ei gyfoedion, ac nid oes fawr o gof i'w gerddi heddiw.
Roedd Austin weithiau'n cael ei wawdio am ei benillion gwladgarol confensiynol, fel:
-
1