Pelé
Cyn-beldroediwr o Frasil oedd Pelé, enw llawn Edison Arantes do Nascimento (23 Hydref 1940 - 29 Rhagfyr 2022). Ystyrir ef yn un o'r pêl-droedwyr gorau yn hanes y gêm, ac ym marn llawer y gorau erioed. Sgoriodd 1,281 gôl yn ystod ei yrfa, mewn 1,363 gêm.Ganed Pelé yn Três Corações, yn nhalaith Minas Gerais. Dysgodd chwarae pêl-droed trwy chwarae'n droednoeth yn y stryd. Bu'n chwarae i dîm Bauru FC, yna i Santos FC. Charaeodd i dîm cenedlaethol Brasil mewn pedair Cwpan y Byd; enillodd Brasil dair o'r rhain, yn 1958, 1962 a 1970. Dim ond 17 oed oedd pan chwaraeodd ei gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd 1958; sgoriodd ei gôl gyntaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Cymru pan oedd yn 17 mlwydd a 239 diwrnod oed, record sy'n sefyll hyd heddiw. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5